• University of Southampton Featured Masters Courses
  • Goldsmiths, University of London Featured Masters Courses
  • Ross University School of Veterinary Medicine Featured Masters Courses
  • Swansea University Featured Masters Courses
  • Jacobs University Bremen gGmbH Featured Masters Courses
  • University of Edinburgh Featured Masters Courses
  • Anglia Ruskin University Featured Masters Courses
  • University of Edinburgh Featured Masters Courses
Cranfield University Featured Masters Courses
Imperial College London Featured Masters Courses
FindA University Ltd Featured Masters Courses
Queen’s University Belfast Featured Masters Courses
University of Leeds Featured Masters Courses

Course content

*Welsh language course*

Mae’r cwrs Ysgifennu Creadigol wedi ei rannu’n Rhan 1 a Rhan 2 a rhaid pasio’r rhan gyntaf yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad i’r ail ran. Mae Rhan 1 yn cynnwys 3 modiwl 40 credyd yr un sef ‘Themâu Creadigol’, ‘Technegau Cyfansoddi’ a ‘Mathau Llenyddol’. Mae Rhan 2 y cwrs yn cynnwys 1 modiwl 60 credyd sef portffolio o waith creadigol hyd at 20,000 o eiriau, a phennir canlyniad y cwrs cyfan ar farc cyfartalog dwy ran y cynllun. Mater i’w drafod rhwng y myfyriwr a’i gyfarwyddwr academaidd fydd union natur y portffolio, ac mae amryw fodelau’n bosib, e.e. nofel fer, casgliad o storïau byrion neu gerddi, cyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith. Rhoddir ystyriaeth ofalus i ofynion unigol pob myfyriwr wrth bennu union gynnwys y modiwlau, a chynllunnir rhan gyntaf y rhaglen gyda golwg ar y posibiliadau creadigol a all fwydo’r ail ran.

Y prif gyswllt dysgu yw hwnnw gyda’r cyfarwyddwr academaidd a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. At hynny, mae cymuned ôl-radd fywiog o fewn Ysgol y Gymraeg a threfnir cyfres o seminarau wythnosol yn ystod Semester 1 a 2. Yn y seminarau hyn cynigir arweiniad i faterion technegol sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ôl-radd, bydd cyfle i glywed cyd-fyfyrwyr yn cyflwyno papurau am eu projectau unigol, a hefyd i ddysgu am ymchwil gyfredol gan staff Ysgol y Gymraeg ac ysgolion academaidd eraill. At hynny, cynhelir seminarau ysgrifennu creadigol rheolaidd a bydd cyfle i glywed awduron gwadd fel Wiliam Owen Roberts, Lloyd Jones, Angharad Tomos ac Ifor ap Glyn yn trafod eu gwaith. Yn ogystal, os yw myfyriwr ôl-radd am ddilyn yn anffurfiol unrhyw un o fodiwlau israddedig yr ysgol er mwyn cyfoethogi ei brofiad dysgu, bydd cyfle iddo wneud hynny.

Cysylltiadau Ymchwil / Cysylltiadau Diwydiannol
Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MA a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Cwmni Da, Rondo Media, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r cylchgrawn Barn. Mae’r profiadau gwaith a gafwyd gyda’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn wedi cryfhau cyflogadwyedd y myfyrwyr ôl-radd yn fawr.

Rhagolygon Gyrfaoedd
I amryw fyfyrwyr mae cwrs MA yn gyfle i ymestyn eu hastudiaethau israddedig drwy ganolbwyntio ar broject ôl-radd a chyn ymgymryd â chwrs hyfforddiant pellach, e.e. ymarfer dysgu. Yn ddiweddar, mae’r profiadau a’r sgiliau a enillir drwy gwrs MA wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth sicrhau swyddi gyda chyfnodolion fel Golwg 360 a’r Cymro, gwasg fel Y Lolfa, rhaglen deledu fel Hacio, a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. I fyfyrwyr eraill, mae MA wedi cynnig sylfaen i ymchwil bellach ar lefel MPhil a PhD.

Visit the Ysgrifennu Creadigol (Creative Writing) page on the Bangor University website for more details!

Loading...

Loading...

Loading...

Loading...

Loading...


Enquire About This Course

Recipient: Bangor University

Insert previous message below for editing? 
You haven’t included a message. Providing a specific message means universities will take your enquiry more seriously and helps them provide the information you need.
Why not add a message here
* required field
Send a copy to me for my own records.

Your enquiry has been emailed successfully




Cookie Policy    X