• Anglia Ruskin University Featured Masters Courses
  • Ross University School of Veterinary Medicine Featured Masters Courses
  • Durham University Featured Masters Courses
  • University of Southampton Featured Masters Courses
  • University of Cambridge Featured Masters Courses
  • Swansea University Featured Masters Courses
King’s College London Featured Masters Courses
University of Reading Featured Masters Courses
University of Hertfordshire Featured Masters Courses
Cass Business School Featured Masters Courses
Aberdeen University Featured Masters Courses

Course content

Nid oes llawer o eiriau sydd mor atgofus a chyfareddol â ‘Cheltaidd’, yn dwyn i gof cywreinrwydd gemwaith yr Oes Efydd, adeiladwaith enfawr Côr y Cewri a Newgrange, chwedlau Arthur a Cú Chulainn a chrefft Farddol brenhinoedd a thywysogion y canol oesoedd. Ond mae ‘Celtaidd’ hefyd yn gysylltiedig â’r Dadeni, yr Ymoleuo a’r Byd Newydd; Rhamantiaeth, Chwyldro a brwydr ieithoedd, llenyddiaeth a hunaniaethau cenedlaethol cyfan i oroesi yn y cyfnod Modern.

Mae’r cwrs course newydd hwn ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle a’r gallu i fyfyrwyr fedru didoli’r ffeithiau a’r ffuglen, ac i ateb yn fanwl y cwestiwn:

‘Pwy oedd – a phwy yw – y Celtiaid?’

Yn ystod un flwyddyn academaidd bydd modiwlau yn cael eu dysgu gan arbenigwyr yn Ysgolion Cymraeg; Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg; a Cherddoriaeth, yn canolbwyntio ar lenyddiaeth, archaeoleg, crefydd, mytholeg, hynafiaeth, hanes celf a cherddoriaeth, er mwyn archwilio diwylliant a hunaniaeth y bobl Geltaidd o’r bryngaerau cynhanes i seneddau datganoledig ac annibynnol heddiw.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael arweiniad wrth wneud eu hymchwil eu hunain ar gyfer traethawd hir gradd Meistr ar bwnc o’u dewis.

Mae’r holl gyfarwyddyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac mae cefnogaeth gynhwysfawr ESOL ar gael lle bo angen.

Dyma rai o’r prif bynciau sy’n cael eu trafod yn y cwrs course:

A yw’r ‘Celtiaid’ yn bodoli mewn gwirionedd, ac os felly, pwy a beth ydynt? Sut allwn ni drafod cwestiynau o’r fath, gyda pha fethodoleg a gyda pha dystiolaeth?
Sut mae’r gair ei hun (‘Celt’, ‘Keltoi’, ac yn y blaen) wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y canrifoedd, o haneswyr Clasurol i gerddorion pop modern?
Beth yw cryfderau a gwendidau ‘Celtomania’ a ‘Celtosgeptigiaeth’? Sut mae’r cysyniad o’r ‘Celtiaid’ wedi ei ddarganfod a’i wrthod mewn gwahanol feysydd fel Llenyddiaeth, Archaeoleg, Ieithyddiaeth, Cerddoriaeth, Crefydd?
Sut y cyfrannodd ysgolheigion cyfandirol y bedwaredd ganrif ar bymtheg at greu’r ‘Celtiaid’?
Sut y gwnaeth y bobl sy’n siarad ieithoedd Celtaidd ennill eu hunaniaeth eu hunain a sut maent yn dal i wneud hynny? Beth mae’r testunau canoloesol (Cyfreithiau, Chwedlau, Barddoniaeth Llys, Bywydau’r Seintiau) a chanfyddiadau archeolegol yn dweud wrthym, a beth sydd gan hanes diweddar i’w ddweud?
Beth yw’r prif ffynonellau tystiolaeth am hanes a hunaniaeth y bobl ‘Geltaidd’ (hynny yw, y rhai sy’n siarad ieithoedd Celtaidd yn y cyfnod modern)? Sut ydym ni’n defnyddio’r ffynonellau hyn? A all Arthur a Cú Chulainn ddweud rhywbeth buddiol wrthym?
Sut mae hunaniaethau ethnig a chenedlaethol y ‘Celtiaid’ modern wedi eu portreadu a’u trafod mewn perthynas â’r cysyniad hwn o’r ‘Celtaidd’?
Beth oedd perthnasedd gwleidyddol ac ideolegol y ‘Celtiaid’ a beth ydyw erbyn hyn?
Gyda materion fel hyn dan sylw, mae’r cwrs course wedi ei lunio i ddatblygu sgiliau’r myfyrwyr trwy gynllun astudiaeth uwch arbenigol. Un amcan pwysig yw rhoi hyfforddiant dadansoddol perthnasol i’r myfyrwyr, fel eu bod yn gyfarwydd â’r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf mewn perthynas ag Astudiaethau Celtaidd. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd gan fyfyrwyr sail gadarn ym mhrif ddulliau a ffynonellau’r ddisgyblaeth, a byddant hefyd wedi datblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo’n eang ac a fydd yn berthnasol i amrywiaeth fawr o yrfaoedd.

Fframwaith y Cwrs
Mae’r course yn gwrs un flwyddyn (llawn amser) a gellir hefyd ei wneud yn rhan amser (gan amlaf hyd at dair blynedd). Ceir dwy ran i’r rhaglen gradd:

Rhan 1:

Mae hon yn elfen gwbl hyfforddedig, ac mae’n cyfrannu 120 credyd. Mae gan bob modiwl hyfforddedig bwysiad credyd o 40 credyd. Dysgir rhan 1 yn ystod dau semester y flwyddyn academaidd. Mae’r dysgu yn ystod semester 1 gan amlaf rhwng diwedd mis Medi a mis Rhagfyr. Mae’r dysgu yn ystod semester 2 gan amlaf rhwng diwedd mis Ionawr a dechrau mis Mai.

Bydd y modiwlau yn Rhan 1 yn cael eu hasesu trwy gyfrwng traethodau.

Rhan 2:

Mae rhan 2 yn cynnwys traethawd hir dan oruchwyliaeth o oddeutu 20,000 gair, ar bwnc o’ch dewis, a benderfynir ar ôl trafod gyda chynghorwr traethawd hir. Cwblheir yn ystod misoedd yr haf, rhwng diwedd mis Mai a mis Medi, a dylai myfyrwyr llawn amser gyflwyno eu traethodau hir erbyn mis Medi yn y flwyddyn galendr ar ôl cofrestru.

Visit the Y Celtiaid - The Celts page on the Bangor University website for more details!

Loading...

Loading...

Loading...

Loading...

Loading...


Enquire About This Course

Recipient: Bangor University

Insert previous message below for editing? 
You haven’t included a message. Providing a specific message means universities will take your enquiry more seriously and helps them provide the information you need.
Why not add a message here
* required field
Send a copy to me for my own records.

Your enquiry has been emailed successfully




Cookie Policy    X