• University of Southampton Featured Masters Courses
  • Anglia Ruskin University Featured Masters Courses
  • University of Edinburgh Featured Masters Courses
  • Swansea University Featured Masters Courses
  • Goldsmiths, University of London Featured Masters Courses
  • University of Edinburgh Featured Masters Courses
  • Ross University School of Veterinary Medicine Featured Masters Courses
  • Jacobs University Bremen gGmbH Featured Masters Courses
Cranfield University Featured Masters Courses
FindA University Ltd Featured Masters Courses
Barcelona Technology school Featured Masters Courses
FindA University Ltd Featured Masters Courses
Swansea University Featured Masters Courses

Course content

Wedi’i ddysgu ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg ac Ysgol y Saesneg, y cwrs MA Llenyddiaethau Cymru yw’r cwrs cyntaf yn unlle yn y byd sy’n canolbwyntio ar astudio a chymharu testunau o’r ddau brif draddodiad yng Nghymru (lle bo angen, mewn cyfieithiad i’r Saesneg). Cymru yw’r unig un o genhedloedd Celtaidd gwledydd Prydain i fod ag iaith frodorol hyfyw a siaredir ar raddfa eang a llenyddiaeth gyfoes gyffrous. Ar ben hynny, hi yw’r unig genedl yng ngwledydd Prydain y mae ei llenyddiaeth Saesneg unigryw yn parhau ar yr ymylon o fewn ei chyfundrefn addysg ei hun. Ar lefel brifysgol, oherwydd rhaniad ieithyddol a fodolai yn yr 20fed ganrif, anogwyd astudiaeth ar y ddwy lenyddiaeth ar wahân – agendor nad yw ysgolheigion cyfoes ond megis dechrau ei phontio. Oherwydd ei chanolfan ddiwylliannol wirioneddol ddwyieithog, mae Bangor yn lle delfrydol i astudio’r ddau draddodiad llenyddol hyn, ac i ystyried y cwestiwn ynglÅ·n â beth sy’n digwydd i lenyddiaeth yn y Saesneg os nad hwn yw’r prif draddodiad.

Rhan Un:

Mae rhan gyntaf y cwrs yn cynnwys tri modiwl sy’n ceisio rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o hanes llenyddol a diwylliannol modern Cymru, eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion allweddol ym maes ysgolheictod llenyddol modern Cymru ac ystyried themâu allweddol ar draws y ddau draddodiad llenyddol, o safbwynt traws-gymunedol.

Rhagarweiniad: "Pwy Sy’n Siarad dros Gymru?": Yn y modiwl rhagarweiniol hwn, gofynnir i fyfyrwyr ystyried sut y deallwyd ac y deellir materion yn ymwneud â hunaniaeth Gymreig o 1840 tan y presennol. Bydd myfyrwyr yn nodweddiadol yn astudio gwahaniaethau mewnol yng Nghymru, Prydeindod, cysyniadau o hunaniaeth Geltaidd, Cymru fel cenedl ôl-drefedigaethol, profiadau cyfochrog â chenhedloedd eraill Prydeinig sydd wedi’u "dominyddu", mudiadau cenedlaethol. Mae’n bosib yr astudir gweithiau gan yr awduron canlynol: Hywel Teifi Edwards, Saunders Lewis, Raymond Williams, Matthew Arnold, J.R. Jones, M. Wynn Thomas, Tony Conran, Dai Smith, Kirsti Bohata.
Moderniaeth Gymreig: Gofynnir i fyfyrwyr ystyried sut y bu i lenyddiaeth ar draws y ddau draddodiad ieithyddol gofnodi dyfodiad moderniaeth, a’r newidiadau a ddilynodd yn ei sgil. Gall themâu gynnwys diwydiant, dosbarth, trefoli, cyfalafiaeth, diwylliant gwledig, crefydd, newid ieithyddol ac alltudiaeth. Gall llenorion i’w hastudio gynnwys Caradoc Evans, Lynette Roberts, Caradog Pritchard, Dylan Thomas, Kate Roberts, R.S. Thomas, Arthur Machen, Emyr Humphreys, Idris Davies.
Rhywedd a Chymru: Bydd y myfyrwyr yn astudio’r berthynas rhwng rhywedd a’r genedl Gymreig, a sut mae rolau rhywedd wedi newid dros y ganrif ddiwethaf. Gall themâu gynnwys rhywioldeb, gwrywdod a diwydiant, cynrychiolaethau ar sail rhywedd o’r gofod a wladychwyd, y corff gwrywaidd, merched a chynrychiolaethau o dir. Gall llenorion i’w hastudio gynnwys: Elin ap Hywel, Jan Morris, John Sam Jones, Glyn Jones, Jane Aaron, Lewis Jones, Gwyneth Lewis, Rhys Davies, Amy Dillwyn, Menna Gallie.
Rhan Dau:

Paratoi traethawd hir 20,000 o eiriau, wedi’i ysgrifennu naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, ar bwnc o’ch dewis chi yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar y llenyddiaethau sydd o ddiddordeb i’r myfyriwr, wedi’i ymchwilio a’i ysgrifennu dan oruchwyliaeth unigol arbenigwr yn y maes.

Visit the Llenyddiaethau Cymru MA (Literatures of Wales) page on the Bangor University website for more details!

Loading...

Loading...

Loading...

Loading...

Loading...


Enquire About This Course

Recipient: Bangor University

Insert previous message below for editing? 
You haven’t included a message. Providing a specific message means universities will take your enquiry more seriously and helps them provide the information you need.
Why not add a message here
* required field
Send a copy to me for my own records.

Your enquiry has been emailed successfully




Cookie Policy    X